Pwyllgor Tacsi a Chyffredinol
Ystyriodd Pwyllgor Tacsis a Materion Cyffredinol ddau gynnig i godi uchafswm y ffioedd mesuredig y mae cerbydau hacnai (tacsis y gellir eu galw oddi ar y stryd) yng Nghaerffili yn eu codi. Cytunodd i argymell wrth y Cabinet y dylid cymeradwyo cynnig A, ac i hysbysebu'r cynigion ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus o 14 diwrnod.