Pwyllgor Cynllunio
Gwrthododd gais am orsaf betrol a chanolfan wefru cerbydau trydan ym Muriau, Caernarfon, am wyth rheswm, ar ôl i'r cais gael ei anfon yn ôl am nad oedd yr adroddiad blaenorol wedi ystyried yr unedau bwyd i fynd yn llawn. Cymeradwyodd, gydag amodau, gynllun o 36 o gartrefi fforddiadwy ar Ffordd Llanberis, Caernarfon, a phrosiect i gyfnewid ceblau trydan tanddaearol ar hyd yr A483 ym Mhorthmadog.